Neidio i'r prif gynnwys

Mae hwn yn wasanaeth newydd. Helpwch ni i'w wella a rhoi eich adborth (agor mewn tab newydd).

Gorffen profi eich hunaniaeth trwy fewngofnodi i'ch bancio ar-lein

Rhaid i'ch cyfrif fod:

  • yn gyfrif cyfredol, nid cyfrif cynilo, cyfrif cerdyn credyd neu fath arall o gyfrif
  • yn eich enw chi (gallwch ddefnyddio cyfrif ar y cyd)
  • mwy na 3 mis oed
Sut mae bancio ar-lein yn profi fy hunaniaeth?
Mae gan fanciau ddiogelwch cryf iawn, felly pan fyddwch yn mewngofnodi, maent yn gwybod mai chi sydd yno mewn gwirionedd.

Yna gall y banc gadarnhau'r manylion a roddwyd gennych i ni, i'n helpu i fod yn siŵr mae chi yw pwy rydych yn dweud ydych chi.

Cyn i chi fewngofnodi

Byddwn yn gofyn am eich caniatâd i rannu gwybodaeth o'ch cyfrif gyda chwmni o'r enw Ecospend.

Mae hyn er mwyn i ni allu cysylltu'n ddiogel â'ch banc a chadarnhau eich hunaniaeth. Byddwch yn gweld pa wybodaeth fydd yn cael ei rhannu gydag Ecospend cyn i chi gytuno iddi.

Mae gan ein hysbysiad preifatrwydd (agor mewn tab newydd) fwy o fanylion am sut y bydd eich gwybodaeth yn cael ei defnyddio.

Mae Ecospend yn cael ei reoleiddio gan yr Awdurdod Ymddygiad Ariannol (agor mewn tab newydd).

Profi eich hunaniaeth mewn ffordd arall